Cyswllt gyda’r heddlu

Hafan

AtalHeddluLlysCarcharRhyddhauAdferiad

Sut i ddefnyddio’r canllaw hwnCysylltiadau allweddol

 

Os ydy’r heddlu yn dod atoch er mwyn trafod eich ymddygiad, mae’n bwysig eich bod yn cydweithredu ac yn gwrando ar yr hyn sydd ganddynt i’w ddweud. Defnyddiwch y canllaw hwn er mwyn sicrhau eich bod yn gwybod beth yw eich hawliau a’ch cyfrifoldebau.*

• Deddf Iechyd Meddwl 1983, fel sydd wedi ei ddiwygio gan Ddeddf Iechyd Meddwl 2007

Mae’r pŵer gan yr heddlu o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl i fynd â chi i “fan diogel” os ydynt yn credu eich bod yn dioddef anhwylder meddwl a’u bod yn pryderi’n ddifrifol am eich iechyd chi neu ddiogelwch pobl eraill. Mae’r pwerau yma wedi eu hamlinellu yn Adrannau  135 a 136 o’r Ddeddf Iechyd Meddwl, gan ddibynnu os ydych mewn tŷ preifat neu le cyhoeddus.

O dan Adran 135, mae’r heddlu yn meddu ar y pŵer i fynd i mewn i’ch tŷ ac unrhyw dŷ preifat yng nghwmni meddyg a gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol arall, gan fynd â chi i le diogel; ond cyn gwneud hyn, rhaid iddynt sicrhau caniatâd gan ynad.

Os yw’r heddlu a’r gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol yn dod i mewn i’ch tŷ, mae’n bwysig eich bod yn gofyn am weld y caniatâd y maent wedi derbyn gan ynad. Pan eich bod wedi darllen hwn, ceisiwch gofio’r rheswm eu bod yno yw eu bod yn pryderi am eich iechyd, diogelwch a’ch lles. Mae’n annhebyg eich bod wedi gwneud unrhyw sydd o’i le, ond efallai eich bod yn sâl ac efallai nad ydych yn sylweddoli bod angen helpu a chymorth arnoch.

Ceisiwch gadw eich pwyll a gofynnwch iddynt gysylltu gyda’ch teulu neu’ch gofalwr, a cheisiwch sicrhau fod y gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol yn cymryd amser yn esbonio’r hyn sydd wedi digwydd i chi.

Os ydych eisoes yn cael eich dal yn y ddalfa ac os nad ydych yn siarad neu’n deall Saesneg neu’n profi cam ar eich clyw neu’ch lleferydd, mae’n rhaid i’r heddlu drefnu cyfieithydd/dehonglwr iaith arwyddion i chi.

O dan Adran 136, mae’r hawl gan yr heddlu i fynd â chi o le cyhoeddus i fan diogel os ydych yn ymddwyn yn rhyfedd ac yn dangos arwyddion eich bod yn ddifrifol sâl.

 

• Asesiadau mewn Man Diogel

Mae pwerau’r heddlu yn Adrannau 135 a 136 yn meddu ar un pwrpas yn unig – rhoi’r cyfle i feddyg a gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol cymeradwy i’ch asesu  er mwyn sicrhau eich bod yn cael y gofal a’r driniaeth sydd angen arnoch. (Mae’r term  “gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol cymeradwy” i’w ganfod yn Neddf 2007 ac yn disodli’r term “gweithiwr cymdeithasol proffesiynol cymeradwy” yn Neddf 1983. Mae “gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol cymeradwy” yn medru cynnwys nyrs, therapydd galwedigaethol ynghyd â gweithiwr cymdeithasol.

Mae modd eich cadw mewn “man diogel” (y term a ddefnyddir yn y Ddeddf) am gyfnod o hyd at 24 awr pan eich bod yn cael eich cadw o dan AS135 neu A136, er y dylid cwblhau eich asesiad mewn cyfnod dipyn llai na hyn, o fewn rhai oriau fel arfer. Fodd bynnag, dylai swyddog heddlu alw gweithwyr iechyd proffesiynol cyn defnyddio A136. Mae man diogel yn medru cynnwys ysbyty (gan gynnwys yr Adran Damweiniau Brys) neu unrhyw lety iechyd meddwl arall. Dylid mynd ag unigolion i fan diogel mewn sefydliad iechyd, ac nid cell yr heddlu, oni bai eich bod yn cael gwybod na fyddai hyn yn ddiogel.

Yng Nghymru, mae’r Concordat Gofal Argyfwng yn ceisio lleihau’r pŵer i gadw pobl o dan Adrannau  135 neu 136 ac atal defnyddio celloedd yr heddlu fel man diogel, ac eithrio mewn sefyllfaoedd eithriadol (e.e. os oes yna drais difrifol) a’n sicrhau nad yw celloedd yr heddlu yn cael eu defnyddio o gwbl i blant a phobl ifanc sydd yn iau na 18 mlwydd oed.

Unwaith i chi gael eich asesu, mae tri chanlyniad yn bosib:
1. Rydych yn cael eich rhyddhau o’r man diogel ac yn medru dychwelyd adref, gan obeithio y byddwch yn derbyn yr help a’r gefnogaeth sydd angen arnoch.
2. Rydych yn cytuno i fynd i’r ysbyty yn wirfoddol.
3. Rydych yn cael eich gorfodi i fynd i’r ysbyty fel o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl (fel arfer Adran  2 neu 3).

Stopio a Chwilio

Mae’r pwerau gan yr heddlu i stopio a chwilio pobl os ydynt yn credu fod yna sail resymol ganddynt i’w hamau. Cofiwch, nid oes hawliau cyffredinol gan yr heddlu i’ch stopio a chwilio oni bai eich bod yn rhoi eich caniatâd iddynt.

Rydych yn cael eich ‘stopio’ pan fydd heddwas yn eich stopio ac yn gofyn i chi beth ydych yn ei wneud, ble ydych yn mynd a’r hyn sydd yn eich meddiant. Mae ‘stopio a chwilio’ yn digwydd os yw’r heddwas yn credu bod cyffuriau/arfau/eiddo wedi’i ddwyn yn eich meddiant neu unrhyw eitemau sydd i’w defnyddio at ddibenion troseddu/terfysgaeth. Nid yw’n golygu eich bod yn cael eich arestio.

Rhaid i’r heddwas sydd yn eich stopio i roi’r rheswm i chi pam eich bod wedi stopio, rhoi ei fanylion i chi (gan gynnwys enw, rhif heddlu a’r orsaf heddlu) a chopi o’r ffurflen stopio/chwilio. Mae hawl gennych i ofyn bod yr heddwas sydd yn eich chwilio o’r un rhyw â chi.

 

• Arestio

Mae’r heddlu yn medru eich arestio gyda gwarant neu heb warant os ydynt yn credu eich bod wedi cyflawni trosedd. Roedd  Deddf Troseddau Difrifol ac Wedi’u Trefnu 2005 wedi dileu’r term ‘Trosedd Arestiadwy’, sydd yn golygu bod unrhyw Gwnstabl yn medru eich arestio heddiw am unrhyw drosedd. Mae’r pŵer gan yr heddlu i ddefnyddio ‘grym rhesymol’ er mwyn eich arestio.  Mae hyn yn golygu na ddylid defnyddio “dim mwy o rym na sydd yn gwbl angenrheidiol er mwyn eich arestio”.  Os yw’r heddlu yn defnyddio mwy o rym nag sydd angen, efallai eich bod yn tramgwyddo eich hawliau dynol.

Pan eich bod yn cael eich arestio, nid oes hawl eich cadw am gyfnod amhenodol. Mae’r rheol gyffredinol  yn dynodi nad oes hawl eich cadw am 24 awr heb fod yr heddlu yn dwyn cyhuddiad yn eich erbyn. Mae modd ymestyn y cyfnod hwn hyd at 36 awr gan heddwas sy’n  Uwch-arolygydd. Os ydy’r heddlu am eich cadw am fwy na 36 awr, rhaid sicrhau caniatâd gan ynad. Y cyfnod hwyaf ar gyfer cadw unigolyn yw 96 awr – wedi hyn, rhaid i chi gael eich rhyddhau neu mae modd gofyn i’r ynad am 24 awr ychwanegol bellach er mwyn eich cwestiynu, neu’n dwyn cyhuddiad yn eich erbyn.

Wedi cael eich arestio, mae tair hawl sylfaenol gennych:
1. Yr hawl i dderbyn cyngor cyfreithiol am ddim ac sy’n annibynnol.
2. Yr hawl i roi gwybod i rywun eich bod wedi eich arestio – fel arfer perthynas neu ffrind.
3. Yr hawl i ddarllen Cod Ymarfer (llyfr sydd yn ymwneud gyda phwerau a gweithdrefnau’r heddlu).

 

  • Cyngor Hafal: Sicrhewch eich bod yn gofyn am gyngor cyfreithiol mor fuan ag sydd yn bosib. Mae’r hawl gan bawb i dderbyn cyngor cyfreithiol am ddim yng ngorsaf yr heddlu gan gyfreithiwr neu’r unigolyn sydd wedi ei gytundebu gan y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol neu o swyddfa’r Amddiffynwyr Cyhoeddus. Mae modd i chi ofyn i’r heddlu i gysylltu gyda’r cyfreithiwr ar ddyletswydd (os oes un ar gael), neu am restr o gyfreithwyr lleol neu i gysylltu gyda’ch cyfreithiwr eich hun. Sicrhewch hefyd eich bod yn gofyn i’r heddlu i roi gwybod i’ch perthynas/ffrind eich bod wedi eich arestio a sicrhewch fod eich Cydlynydd Gofal yn gwybod am yr hyn sydd wedi digwydd. 

 

 

 

 

Mewn amgylchiadau prin ac anarferol iawn, efallai y bydd yna oedi o hyd at 36 awr cyn eich bod yn cael derbyn cyngor cyfreithiol. Fodd bynnag, byddai angen bod yr heddlu yn meddu ar resymeg gadarn iawn dros wneud hyn a rhaid bod Uwch-arolygydd yn ei awdurdodi. Pan fydd y cyfreithiwr yn cyrraedd, bydd y cyfreithiwr yn:
1. Dweud wrthych yr hyn sydd yn digwydd.
2. Esbonio’r termau cyfreithiol i chi.
3. Siarad ar eich rhan a’n cyflwyno achos er mwyn eich amddiffyn.

Maepobl sydd ag afiechyd meddwl fel arfer yn hynod archolladwy i’r trallod a’r pwysau sydd yn cael eu profi pan fydd unigolyn yn cael ei arestio a’i gadw a rhaid cynnig ‘oedolyn priodol’  i’r person sydd yn canfod ei hunan yn y fath sefyllfa (ac unrhyw un sydd o dan 17 mlwydd oed). Mae hwn yn oedolyn cyfrifol sydd yn annibynnol o’r heddlu a’u rôl yw:
• Gofalu am les yr unigolyn sydd yn cael ei gadw yn y ddalfa.
• Helpu hwy i ddeall yr hyn sydd yn digwydd a pham.
• Esbonio gweithdrefnau’r heddlu.
• Darparu gwybodaeth am hawliau a sicrhau bod y rhain yn cael eu diogelu.
• Hwyluso’r broses o gyfathrebu gyda’r heddlu.

 

  • Cyngor Hafal: Hafal: Sicrhewch eich bod yn gofyn i oedolyn priodol i fynychu os nad oes un wedi ei gynnig i chi. Sicrhewch eich bod yn gofyn i gyfreithiwr ac oedolyn priodol i wneud cais bod ymarferydd iechyd meddwl yn eich asesu.

 

Os ydych yn cymryd meddyginiaeth yn rheolaidd, yna rhowch wybod i’r heddlu cyn gynted ag sydd yn bosib. Ar y pwynt hwn, os ydych yn sâl iawn (er enghraifft, yn profi seicosis), mae’r heddlu yn medru gofyn i lawfeddyg yr heddlu i’ch asesu er mwyn cadarnhau bod modd eich cadw/cyfweld. Dyma’r pwynt y mae modd i’r asesydd meddygol i ofyn am weithiwr iechyd meddwl proffesiynol  cymeradwy fel bod modd cynnal asesiad seiciatryddol, Os oes angen i chi gael eich tynnu allan o’r broses cyfiawnder troseddol yn sgil eich afiechyd meddwl, bydd seiciatrydd fel arfer yn gwneud y penderfyniad hwn. Byddant yn gweithio ar y cyd gyda’ch cyfreithiwr ac maent yno i’ch cefnogi.

Mae hawl gan yr heddlu i gymryd eich ôl-bysedd, i dynnu llun ohonoch a chymryd samplau wrthych. Pan fydd yr heddlu yn eich cyfweld, byddant yn recordio’r cyfweliad.

Mae nifer o ganlyniadau posibl ar ôl cyfweliad gyda’r heddlu:

1. Dim camau pellach – pan fydd  yr heddlu yn penderfynu nad oes tystiolaeth ddigonol i erlyn neu fod rhybudd yn ddigonol.
2. Rhybudd – os nad yw mudd y cyhoedd i’ch erlyn, bydd yr heddlu yn rhoi rhybudd swyddogol i chi am eich ymddygiad.
3. Hysbysiad Cosb Benodedig – dyma ddirwy a chaiff ei ddefnyddio ar gyfer ystod o droseddau bychain (e.e. yn achosi sŵn).
4. Hysbysiad Cosb am Anhrefn – dyma ddirwyon hefyd ond maent ar gyfer ymddygiad mwy difrifol megis achosi trallod a phryder i eraill, drwy fod yn feddw a’n creu anhrefn, dwyn o siopau (am symiau llai na £200) a defnyddio geiriau ac ymddygiad bygythiol.
5. Erlyniad – yn yr achos hwn, mae wedi ei benderfynu bod angen i’r achos fynd i’r llys. Adran y Llywodraeth sydd yn gyfrifol am gadarnhau’r cyhuddiad yn eich erbyn (charge) ac erlyn achosion troseddol gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr yw Gwasanaeth Erlyn y Goron.  Rhaid i Wasanaeth Erlyn y Goron “erlyn achosion yn gadarn, yn deg ac yn effeithiol os oes yna dystiolaeth ddigonol  i sicrhau euogfarn pan fydd hi ym mudd y cyhoedd i wneud hyn”.

*Noder os gwelwch yn dda fod y Ddeddf Heddlu a Throseddu i’w chyhoeddi yn Rhagfyr 2017, a bydd y cynnwys yma yn cael ei ddiweddaru pan yn briodol.